Caiff coronafirws ei gludo mewn defnynnau ac aerosolau;
Trwy gadw o leiaf 2m o berson heintus, mae'n bosib osgoi defnynnau a'r mwyafrif o aerosolau;
O dan rhai amodau, gall aerosolau gasglu yn yr awyr, gan ddiddymu effeithiau cadw pellter;
Bydd digon o awyr iach yn lleihau'r posibilrwydd o aerosolau rhag casglu, boed hynny y tu allan neu y tu mewn - gyda digon o awyru.
Trwy wisgo mwgwd gyda sêl dda yn erbyn y wyneb, bydd llawer o ddefnynnau ac aerosolau yn cael eu hatal rhag lledaenu yn yr aer, ond nid pob un.
Yr adeg fwyaf heintus i unigolyn yw cyn datblygu symptomau.
Gyda chymaint â 40% o bobl heintus yn asymptomatig (heb symptomau), bydd gwisgo mwgwd yn fwyaf buddiol cyn datblygu symptomau.
Os yw person iach yn cael ei heintio, gall gwisgo mwgwd gyda sêl dda yn erbyn y wyneb leihau dogn (dose) y firws. Gall person heb fwgwd dderbyn dogn uwch.
Mae perthynas rhwng dogn firws a difrifoldeb symptomau. Po fwyaf yw'r dogn, y mwyaf tebygol bydd y symptomau'n ddifrifol.
Bydd miswrn (visor) yn atal rhai defnynnau, ond nid yw'n rhwystro aerosolau heintus.
Mae'r uchod yn berthnasol i blant, yn enwedig y rheiny yn eu harddegau.
Gall ein defnydd o'n lleisiau effeithio ar ledaeniad coronafirws.
Wrth godi'n llais, mae mwy o aerosolau'n cael eu creu.
Wrth i bobl ddychwelyd i’w hen arferion, mae’r risg o ddal SARS-CoV-2 a mynd yn sâl gyda COVID-19 yn parhau. Bydd agor adeiladau a rennir, megis ysgolion a swyddfeydd, yn cynyddu’r risg o drosglwyddiad rhwng pobl gan fod y firws dal yn bresennol yn ein cymunedau. Hyd yn hyn, mae rheolaeth risg trosglwyddo wedi cynnwys ymbellhau cymdeithasol o eraill a golchi dwylo’n aml.1 Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos bod modd lleihau’r risg ymhellach, trwy ddeall sut mae’r firws yn trosglwyddo a sut y gellir ei reoli.
Gall SRS-CoV-2 heintio pobl o bob oedran, gyda COVID-19 yn effeithio pobl yn fwy gyda chynnydd oed. Mae SARS-CoV-2 a'i effeithiau ar bobl ifanc yn parhau i greu stŵr.
Plant sy'n gyfrifol am 1-7% o'r heintiau a gofnodwyd, er eu bod tua 21-25% o'r boblogaeth. Mae ganddynt gwrs saldra ysgafnach gyda marwolaethau'n eithriadol o brin.2–6 Fel gydag unrhyw broses profi, mae'r rhif go iawn yn debyg o fod yn uwch. Gall unigolion fod yn ddiarwybod eu bod wedi eu heintio â SARS-CoV-2, ac felly ddim yn ceisio prawf oherwydd symptomau ysgafn neu ddiffyg symptomau, neu anawsterau wrth brosesu profion yn gywir (profi'n negyddol er bod SARS-CoV-2 yn bresennol).7,8
Mae'n ymddangos bod plant yn datblygu COVID-19 ysgafnach, gyda symptomau ysgafn neu dim o gwbl, am resymau sydd eto i'w deall. Ni ddylai mesurau diogelwch gael eu hanwybyddu oherwydd hyn.3,9 Er yn brin, mae plant wedi cael eu taro'n wael iawn gyda SARS-CoV-2.10,11 Dangosodd ymchwil ar nifer bach o blant a dderbyniodd gofal dwys am Syndrom Aml-system Llidiol Pediatreg (PIMS) bod gwellhad cyflym, er nid yw'r effeithiau hirdymor yn wybodus.12
Er mai cyfran fach o achosion sy'n gysylltiedig â phlant, a'r rheiny a heintiwyd gyda symptomau COVID-19 ysgafnach, ni ddylai hyn fod yn awgrym eu bod yn llai tebygol o ddal SARS-CoV-2. Digwyddodd un tarddiant o SARS-CoV-2 mewn gwersyll Haf, gan arwain at 597 o staff a mynychwyr yn cael eu hanfon adref. Cafodd o leiaf 58% o'r 344 mynychwyr eu profi, gyda 76% o'r rhain yn derbyn canlyniad positif.13 Amrediad oed y mynychwyr oedd 6 i 19, gyda chanolrif o 12, sy'n cyfrannu at gorff cynyddol o dystiolaeth bod plant yn dal SARS-CoV-2.10,13,14 Ble'r oedd gwybodaeth ychwanegol ar gael am y rhai a heintiwyd, yr oedd 26% yn asymptomatig, ar 74% yn weddill unai'n amau neu'n profi twymyn, cur pen a/neu dolur gwddwf. Nid yw'n bosib meintioli lefel risg i blant gan fod angen cynnal mwy o ymchwil, er hyn, mae dal risg.
Nid yw diffyg symptomau COVID-19 yn golygu diffyg yn y gallu i heintio eraill. Gall blant bod yr un mor heintus, neu'n fwy heintus nag oedolion.15–18 Felly, oedolion sydd efo'r risg mwyaf o fynd yn sâl trwy ddod i gyswllt â phlant heintus, ac nid i'r plant eu hunain.
Yn groes i hyn, mae'r rhai sy'n cael ei heffeithio fwyaf gan SARS-Co-2I, unai gyda chyflwr meddygol blaenorol (e.g. imiwnedd o dan fygythiad, clefyd siwgr, clefyd y galon, gordewdra) neu mewn oed. Cynydda difrifoldeb symptomau COVID-19 gydag oed. Dengys Ffigur 1 y gyfradd marwolaethau oed-benodol fesul 100,000 yn erbyn oedran, i Gymru a Lloegr, sydd wedi dal SARS-CoV-2.19 Er nad yw'r mwyafrif o oedolion yn mynd yn sâl iawn oherwydd SARS-CoV-2, mae dal cymaint nad ydym yn ei wybod parthed effeithiau hirdymor ar iechyd. Amser a ddengys.20–24
Ffigur 1 - Cynydda cyfradd marwolaethau oed-benodol fesul 100,000, gydag oed. Nifer bach o farwolaethau sydd wedi eu cofrestru i'r rheiny'n iau na 55 mlwydd oed.19
Firws anadlol yw SARS-CoV-2 sy'n lledaenu mewn defnynnau ac aerosolau.25–27 Caiff y rhain eu lledaenu o berson heintus wrth anadlu, siarad, pesychu a thisian.25 Safiad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr yw bod SARS-CoV-2 yn cael ei ledaenu'n bennaf trwy ddefnynnau a chyswllt agos - nid trosglwyddiad aerosol.28–31 Mae'r safiad hwn yn cael ei herio, gyda mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos lledaeniad SARS-CoV-2 trwy aerosolau ynghrog yn yr awyr.32–35
Bydd defnynnau trymach yn cyfrannu at ledaeniad trwy gael eu taflu ar bobl iach sydd o fewn 2m o berson heintus. Gall defnynnau sy'n cynnwys SARS-CoV-2 ddod i orffwys a halogi arwynebau o fewn y pellter hwn, ble mae modd i eraill ei gyffwrdd a chael eu heintio eu hunain. Bydd defnynnau yn dod i orffwys o fewn eiliadau.25
Mae aerosolau, fel defnynnau, yn fwyaf niferus o fewn 2m o berson heintus ond yn gallu teithio degau o fetrau.36 Gall yr aerosolau hyn, sy'n hawdd i'w hanadlu'n ddwfn i mewn i'r ysgyfaint, gasglu ac aros yn heintus mewn aer y tu mewn am oriau.34,37
Y ddau brif ffordd o ledaeniad firws anadlol yw: cyswllt (uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng pobl ac arwynebau a halogwyd) a thrwy'r awyr. Mae llawer o sylw wedi ei roi i fynd i'r afael â throsglwyddiad cyswllt gyda chyngor i ymbellhau cymdeithasol cymaint â phosib a golchi dwylo ac arwynebau'n reolaidd.28,29,31 Er hyn, nid oes llawer o sylw wedi bod ar drosglwyddiad awyr. Dengys Ffigur 2 sut mae'r firws yn gallu trosglwyddo o berson heintus. Bydd dull heintio yn dibynnu ar faint defnyn; cyfeirir at ddefnynnau bach fel aerosolau.37,43
Ffigur 2 - Diagram yn dangos y gwahaniaeth ym mudiant defnynnau mawr a bach. Yn y cyd-destun hwn, gall defnynnau bach, a elwir yn aerosolau, aros mewn aer ystafell am oriau.37
Mae ymchwil ynghylch SARS-CoV-2 wedi tynnu sylw at wir drosglwyddiad heintiau anadlol eraill, yn gyffredinol.27,33 Daeth un astudiaeth i gasgliad bod 57% o grŵp o ofalwyr iechyd proffesiynol wedi dal SARS-CoV-2 trwy aerosolau.38 Mewn astudiaeth arall, awgrymwyd bod aerosolau yn cyfrannu dros 90% o'r risg i berson ddal SARS-CoV-2 gan berson heintus.36
Ym maes heintiau anadlol, mae pwyslais traddodiadol wedi bod ar besychu a thisian, sy'n arwain at nifer o ddefnynnau gweledol.39 Bydd aerosolau, a all gynnwys SARS-CoV-2, yn cael eu rhyddhau drwy anadlu, siarad, canu, pesychu a thisian.25,40 Gwelwyd cydberthynas rhwng uchder sain llais a'r nifer o aerosolau a ryddhawyd gan berson.39 Yn ogystal â hyn, mae rhai unigolion yn rhyddhau nifer sylweddol am yr un gweithgaredd, sy'n codi amheuaeth bod heintiau anadlol yn cael eu gyrru gan uwch-ledaenwyr - nifer fawr o achosion gan lond llaw o bobl.41
Mae sawl enghraifft o ddigwyddiad uwch-ledaenu wedi denu sylw, gyda phwyslais ar y gweithgaredd. Yn dilyn ymarfer côr 2.5 awr o hyd gyda 61 yn bresennol, ac un ohonynt yn heintus, aeth 32 ymlaen i dderbyn prawf positif am SARS-CoV-2 ac amheuaeth bod 20 arall wedi eu heintio hefyd.40,42 Ni wnaeth pawb a oedd yn bresennol ddod o fewn 2m i'r person heintus.40 Mae enghreifftiau eraill o darddiannau heintus sylweddol o SARS-CoV-2, gan gynnwys gwasanaeth crefyddol ble cafodd cymaint â 2,500 eu heintio.43–45 Gwelwyd hefyd tarddiannau yn effeithio cannoedd o weithwyr mewn lladd-dai a ffatrïoedd prosesu bwyd.46,47 Yr amheuaeth yw bod gweithwyr yn siarad yn uchel ac yn gweiddi, nid yn unig mewn amgylcheddau oer a llaith, ond rhai swnllyd. Yng Nghymru, mae tarddiannau wedi bod yn Llangefni, Wrecsam a Merthyr Tudful.
Yn ystod pandemig ffliw 1918-19, bu farw cymaint â 50-100 miliwn ledled y byd, gyda llawer mwy yn mynd yn sâl. Derbyniwyd nad oedd llawer yn bosib atal y lledaeniad neu drin y rheiny a heintiwyd. Bellach, mae'r safiad hwn yn cael ei herio gydag arsylwadau bod unigolion a heintiwyd gyda'r diciâu neu ffliw, gyda chyfraddau marwolaeth is a chyfraddau adfer uwch, pan dderbyniwyd triniaeth yn yr awyr agored.48
Erbyn 1918, yr oedd hi'n gyffredin gosod cleifion y diciâu yn yr awyr agored.49 Yn 1908, yr oedd cymaint â 90 sanatoria yn y DU – ysbytai wedi eu hadeiladu'n arbennig i ddioddefwyr y diciâu.50 Yn y sanatoria hyn, yr oedd cleifion yn cael eu symud a'u cadw yn yr awyr agored, cyn hired â phosib, wrth gadw nhw'n gynnes gyda photeli dŵr poeth a gwrthbannau. Yr oedd ysbytai awyr agored wedi profi eu manteision i gleifion y diciâu.
Adeg pandemig 1918, llwyddodd un ysbyty i leihau'r nifer o farwolaethau a chynyddu cyfradd adfer i gleifion y ffliw. Derbyniodd cleifion "y mwyaf posib o heulwen ac awyr iach, ddydd a nos".48 Daeth y syniad wedi arsylwad bod achosion gwaethaf o lid yr ysgyfaint i'w weld yn digwydd ym mannau cychod sydd efo awyru gwael; hyn yn Nwyrain Boston. Yn ogystal â hyn, yr oedd morwyr, fel y rheiny ar gychod Dwyrain Boston, hefyd yn fwy tebygol o ddal y ffliw gan ei fod yn trosglwyddo'n hawdd mewn ardaloedd caeedig.48
Bydd cynyddu'r amser yn yr awyr agored hefyd yn cynyddu'r datguddiad i olau uwch-fioled, sydd yn gallu anactifadu firysau,51,52 cynyddu canolbwyntio ac iechyd meddwl, a rhoi hwb i fitamin D - hanfodol i'r system imiwnedd.48,53
Dengys Ffigur 3 dosbarth yn Efrog Newydd yn 1911, gyda'r ffenestri ar agor lled y pen. Yr oedd egwyddorion sanatoria wedi eu defnyddio mewn ysgolion.54 Daeth defnydd ysgolion awyr agored i ben gyda dyfodiad gwrthfiotigau.49 Mae gwrth-fiotigau dim ond yn effeithiol yn erbyn bacteria megis twbercwlosis, ac nid firysau megis SARS-CoV-2.
Ffigur 3 - Plant mewn ysgol yn Efrog Newydd yn 1911, ble mae ffenestri mawrion ar agor lled y pen. Cafodd yr ysgolion eu hadeiladu i atal lledaeniad y diciâu.54
Mewn astudiaeth o 318 achos o dri neu ragor o bobl yn cael eu heintio â SARS-CoV-2, yr oeddent oll mewn amgylchedd y tu mewn.55 Daeth un astudiaeth i gasgliad bod y tebygolrwydd o gael eich heintio â SARS-CoV-2 tua 20 gwaith yn fwy o fewn amgylchedd caeedig.56 Gwelwyd hyn ar waith trwy gydberthynas lleihad mewn achosion a gwaharddiad pobl yn ymgynnull o dan do.
Y tu allan mae digon o awyr iach i wanedu a chwythu i ffwrdd aerosolau sy'n cynnwys SARS-CoV-2, sy'n lleihau'r tebygolrwydd o ddod i gyswllt ag eraill. Yn ogystal â hyn, mae golau haul yn gallu anactifadu 90% o ronynnau SARS-CoV-2 o fewn 19 munud.52 Dylai cymaint o weithgareddau â phosib cael eu cynnal y tu allan am y rheswm hwn.
Os oes raid i weithgareddau gael eu cynnal y tu mewn, gall fwy o awyru gwanedu'r aer y tu mewn gan leihau'r risg o eraill yn dod i gyswllt â SARS-CoV-2. Daeth tarddiant o'r diciâu mewn prifysgol yn Taiwan i ben, pan leihawyd ei drosglwyddiad hyd at 97% gyda chynnydd mewn awyru.57 Bydd agor ffenestri a drysau i annog llif aer ac awyru, yn lleihau'r risg o ledaeniad SARS-CoV-2 os yw person heintus yn bresennol. Gall awyru hefyd gael ei gynyddu gyda systemau sy'n pwmpio aer o'r tu allan i mewn i ystafell.58 Dylid bod yn ofalus i beidio cylchredeg aer y tu mewn, ac i bobl osgoi bod mewn llif aer o berson heintus.25 Hynny yw, osgoi bod yn llwybr aer sy'n llifo a all gynnwys aerosolau SARS-CoV-2. Po fwyaf o bobl sydd mewn ystafell, y mwyaf o awyru sydd ei angen i sicrhau amnewidiad aer rheolaidd. Dengys Ffigur 4 sut mae annog cynnydd mewn awyru, unai trwy annog awyr iach i mewn neu wthio hen aer allan.59
Ffigur 4 - Gall awyru gael ei gynyddu un ai trwy dynnu awyr iach i mewn neu wthio hen aer allan. Gall ffaniau gyflymu amnewidiad aer.59
Gall fod yn anodd gwybod a oes digon o amnewid aer. Mewn un astudiaeth ar ddefnyddio awyru i dynnu firws SARS 2003 a ffliw o'r aer, awgrymwyd 9 amnewidiad aer fesul awr.60 Gellir ei fesur trwy ddefnyddio'r lefel CO2 sy'n bresennol fel dirprwy. Yn yr awyr agored, mae'r lefel CO2 tua 400ppm (ppm - rhan fesul miliwn). Mewn awyrgylch dan do wedi ei awyru'n dda, mae'r lefel tua 800ppm. Felly, bydd amgylchedd dan do wedi ei awyru'n dda os yw'r lefel dim llawer mwy na 800ppm.42,61-63 Mae modd cyflawni hyn yn awtomatig gyda system cylchredeg aer priodol, neu gyfuniad o synhwyrydd CO2 pris rhesymol ac agor ffenestri a drysau.
Yn ogystal ag ymdrechion awyru, gall systemau hidlo aer uwch fod o gymorth. Arsylwyd y canlyniadau gorau gyda chyfuniad o awyru a hidlo aer.27,61,62 Mewn astudiaeth ar ledaeniad y diciâu mewn awyrgylch y tu mewn, yr oedd cyfuniad o hidlo aer (hidlydd HEPA) ac awyru yn lleihau'r crynodiad cyfartalog o ddefnynnau ac aerosolau, felly risg haint, rhwng 30-90%.64 Gall yr un casgliad fod yn berthnasol i SARS-CoV-2. Mae modd prynu system fach hidlo aer uwch am bris cyfrifiadur llechen (e.g. iPad).
Cychwyn y pandemig, yr oedd cyngor parthed effeithlonrwydd ac anogaeth gwisgo mygydau'n gymysg. Gweithwyr iechyd a oedd yn trin cleifion yn uniongyrchol a oedd efo'r angen mwyaf am fwgwd, gyda phryder ynghylch cyflenwadau cyfarpar diogelu personol (PPE).65 Dangoswyd bod mygydau'n effeithiol, nid yn unig mewn amgylchiadau gofal iechyd ond i'r cyhoedd parthed atal lledaeniad SARS-CoV-2.66,67 Gall wisgo mwgwd leihau'r cynnydd yng nghyfradd trosglwyddo SARS-CoV-2 cymaint â 40%.68 Bydd mwgwd yn hidlo llawer o ronynnau firws, ond nid pob un.69
Mae canfod ac atal trosglwyddiad SARS-CoV-2 yn fwy heriol o'i gymharu â firysau anadlol eraill, gydag astudiaethau'n awgrymu bod unigolion fwyaf heintus cyn dyfodiad symptomau.70 Dengys Ffigur 5 anterth heintusrwydd unigolion gyda SARS-CoV-2 cyn dyfodiad symptomau. Yn achos firysau anadlol eraill, bydd unigolion yn fwyaf heintus wedi dyfodiad symptomau. Am y rheswm hwn, mae gwisgo mwgwd, yn eang yn y boblogaeth, yn bwysig i leihau trosglwyddiad i firws i bobl sydd yn ddiarwybod eu bod yn cyn-symptomatig neu asymptomatig.66 Er bod rhai mygydau'n fwy effeithiol nag eraill, pan fo sêl dda yn erbyn y wyneb, mae gorchuddion brethyn syml yn gweithio'n gymharol dda.25,69
Ffigur 5 - Siart yn dangos tebygolrwydd trosglwyddiad SARS-CoV-2 cymharol gydag amser. Bydd unigolyn yn fwyaf heintus cyn dyfodiad symptomau.70
Mae mygydau'n fwyaf effeithiol wrth leihau nifer a gwasgariad aerosolau SARS-CoV-2 o berson heintus. Ond gallent hefyd roi rywfaint o amddiffyniad i bobl iach hefyd. Bydd mygydau yn hidlo nifer fawr o ronynnau firol, ond nid pob un.25,69
Nid yw bod yn asymptomatig yn atal trosglwyddiad SARS-CoV-2 i eraill, ac mae'n fygythiad parhaol i'r rheiny gyda chyflyrau meddygol blaenorol a'r henoed. Ar y llaw arall, fe all heintiad atymptomatig fod yn fuddiol os yw'n cyflwyno SARS-CoV-2 i fwy o bobl o dan amodau penodol.25,69 Trwy gyflwyno SARS-CoV-2 i gymdeithas heb ganlyniadau annerbyniol saldra difrifol, fe all arwain at gynnydd mewn imiwnedd cymunedol a lleihad mewn lledaeniad wrth ddisgwyl am frechiad.69,71 Mae ymchwil wedi arsylwi cydberthynas rhwng llwyth firol a difrifoldeb symptomau.72 Priodolwyd cynnydd mewn heintiau asymptomatig gyda chynnydd yn y nifer sy'n gwisgo mwgwd.69
Dengys Ffigur 6 sut all mwgwd ar berson heintus leihau nifer a gwasgariad gronynnau firol. Gall pobl iach dderbyn budd lleihau'r llwyth firol posib.25,69
Ffigur 6 - Effaith mygydau ar bobl a heintiwyd a iach. Gall mwgwd reoli tardd SARS-CoV-2 o berson heintus, a hefyd amddiffyn pobl iach trwy leihau'r llwyth firol.25
Darpara cartrefi gofal cymorth i'r mwyaf bregus mewn cymdeithas, gan gynnwys yr henoed a'r rheiny gyda chyflyrau meddygol blaenorol - y rhai sydd fwyaf o dan fygythiad SARS-CoV-2. Er nid oll yn briodoladwy i SARS-CoV-2, ym mis Mai adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod gormodedd o 20,000 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac yn Lloegr o ganlyniad y pandemig.73
Yn ôl Canolfan Rheoli Clefydau Llywodraeth yr UDA, ar mae cartrefi gofal gyda chyfraddau uchel o drosglwyddo heintiau am nifer o resymau, gan gynnwys gorlenwi, rhannu adnoddau ymolchi a thoiledau, ac ymgasglu mewn mannau cyffredin, yn ogystal â diffyg parodrwydd i atal heintiau.74 Heriau sy'n wynebu cartrefi gofal yw diffyg a newid cyson o staff, cyfrannedd uchel o breswylwyr-i-staff, prinder cyflenwadau a diffyg atal a rheoli heintiau.
Gellir lleihau risgiau cynhenid amgylcheddau cartrefi gofal trwy gynyddu'r amser yn yr awyr agored, a chynyddu awyru dan do a defnydd hidlyddion aer. Gyda chyfleusterau a rennir mewn amgylcheddau risg-uchel, fel toiledau, cynghorir defnyddio gwasgedd aer negyddol. Gall hyn gael ei gyflawni gyda ffan echdynnu aer cryf.
Mae gan fesurau rheoli lledaeniad SARS-CoV-2 fanteision ychwanegol. Gwelwyd lleihad mawr yn y niferoedd a heintiwyd â ffliw yn Awstralia yn 2020, o'i gymharu â 2019, er cyflawnwyd fwy o brofion. Priodolwyd hyn i fesurau sy'n annog pobl i ymbellhau'n gymdeithasol, golchi dwylo, a pharodrwydd i aros gartref pan ddim yn teimlo'n dda.75
Rhoddodd Patrick Vallance, Prif Gynghorydd Gwyddonol y Llywodraeth y DU (GCSA), bres i Academi Gwyddorau Meddygol i werthuso risg o ffliw tymhorol yn bresennol ar yr un pryd â SARS-CoV-2, a chyflwyno datrysiadau. Y tymor ffliw arwyddocaol ddiwethaf oedd Ngaeaf 2017/18, ble cafwyd dros 17,000 o farwolaethau anadlol gormodol, ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn diddymu holl lawdriniaeth ddewisol yn Ionawr 2018.76 Gorffennaf 24ain, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “cynllun mwyaf erioed i ddarparu brechlyn ffliw”, wedi ei alluogi gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn cyhoeddi £3 biliwn yn ychwanegol i'r GIG ledled y DU.77,78
Mae'r rhagolwg o ffliw yn bresennol yn ein cymunedau yn bryderus. Er hyn, mae pwyslais parhaol ar y mesurau rheoli a ddefnyddiwyd i SARS-CoV-2 yn gallu ein cynorthwyo gyda lleihau'r trosglwyddiad, a'r baich ychwanegol a all gael ei roi ar y GIG sydd eisoes o dan bwysau mawr. Bydd hyn yn fwy pwysig o ystyried casgliad lawdriniaeth arferol sydd wedi ei ddiddymu. Awgrymodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, y gall cymryd cymaint â phedair blynedd i ddal i fyny gyda'r llawdriniaeth a ddiddymwyd oherwydd SARS-CoV-2.79
Er bod pwyslais wedi bod ar drosglwyddiad SARS-CoV-2 gydag aerosolau, ni ddylai ledaeniad posib gyda defnynnau gael eu hanwybyddu. Dylid ymdrechu i geisio fod y tu allan yn yr awyr agored a chynyddu awyru mewn amgylcheddau dan do. Dylid hefyd rhoi ystyriaeth i ddefnyddio systemau hidlo aer. Mae'r pwyntiau hyn ar ben parhau i ymbellhau'n gymdeithasol a golchi dwylo digonol.
Er nad yw plant i'w gweld yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan SARS-CoV-2, nid oes gwybodaeth i amau nad ydynt yn risg i oedolion. Bydd hi'n ddarbodus i blant ac oedolion wisgo gorchuddion wyneb neu fygydau gyda sêl dda yn erbyn y wyneb, i leihau'r nifer o ronynnau SARS-CoV-2 posib yn cael eu lledaenu gan unigolyn heintus. Awgryma Canolfan Rheoli Clefydau Llywodraeth yr UDA (CDC) i unrhyw berson dwy flwydd ac yn hŷn i wisgo mwgwd.
Rhannodd Jose-Luis Jimenez, Athro cemeg ac arbenigwr aerosolau, y cyngor isod: